Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori yn y wefan hon a’i defnyddio, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r amodau a thelerau defnyddio canlynol ac yn eu cadw, sydd, ynghyd â’r polisi preifatrwydd, yn rheoli perthynas [enw’r busnes] â chi o ran y wefan hon.
Mae “Hamdden Celtic” neu “ni” yn cyfeirio at berchennog y wefan a’i swyddfa gofrestredig yw Canolfan Ffitrwydd a Hamdden Aberafan
Ffordd y Dywysoges Margaret, Glan Môr Aberafan, Port Talbot, SA12 6QW. Rhif cofrestru’r cwmni yw 29528R ac mae wedi’i gofrestru yn y DU. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu ddarllenwr ein gwefan.
Mae defnyddio’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnydd canlynol:
• Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er gwybodaeth gyffredinol a’ch defnydd chi ohono yn unig. Gall newid yn ddirybudd.
• Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw sicrwydd na gwarant o ran cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyfanrwydd nac addasrwydd yr wybodaeth a’r deunyddiau ar, neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai’r fath wybodaeth neu ddeunyddiau gynnwys camgymeriadau neu wallau ac rydym yn unswydd yn datgan nad ydym yn gyfrifol am gamgymeriadau neu wallau o’r fath i’r graddau helaethaf a ganiateir gan y gyfraith.
• Byddwch yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn ateb eich gofynion penodol chi.
• Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu a drwyddedir i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid wedi’i gyfyngu i’w ddyluniad, ei gynllun, ei olwg, ei wedd a’i graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu ac eithrio’n unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r amodau a thelerau hyn.
• Mae’r holl nodau masnach yn y wefan hon nad ydynt yn eiddo i weithredwr y wefan neu wedi eu trwyddedu iddo, yn cael eu cydnabod ar y wefan.
• Gall defnyddio’r wefan hon mewn modd nas caniateir olygu hawlio iawndal a/neu fod yn dramgwydd troseddol.
• Gall y wefan hon o dro i dro gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi ac i ddarparu mwy o wybodaeth. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn cymeradwyo’r gwefannau hynny. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys y gwefannau cysylltiedig.
• Nid oes hawl gennych i greu dolen i’r wefan hon o wefan neu ddogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig Hamdden Cymunedol Celtic ymlaen llaw.
Mae eich defnydd chi o’r wefan ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’r defnydd ohoni yn ddarostyngedig i gyfreithiau Lloegr, yr Alban a Chymru.