Mae Hamdden Celtic yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un a hoffai gael profiad gwaith mewn maes penodol yn ein sefydliad.
Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau lleol i ddarparu cyfleoedd lleoli.
Dyma rai o’r mathau o leoliadau sydd ar gynnig:
- Lleoliadau ar gyfer unrhyw un sydd mewn addysg neu hyfforddiant ac a hoffai ennill profiad gwaith ymarferol i’w alluogi i gwblhau ei hyfforddiant yn llwyddiannus.
- Disgyblion ysgolion uwchradd yn ystod eu hwythnos profiad gwaith.
- Unigolion di-waith er mwyn eu helpu i gael y profiad a’r sgiliau cyflogadwyedd y mae eu hangen arnynt i ddychwelyd i’r gweithle.
Os oes gennych ymholiadau am drefnu lleoliad gwaith gyda ni, ffoniwch yr Adran AD ar 01639 640068 neu e-bostiwch vacancies@celticleisure.org
Er ein bod yn ceisio rhoi lle i gynifer o’n hymgeiswyr â phosib, mae lleoliadau’n brin trwy gydol y flwyddyn a byddant yn cael eu dyrannu mor deg â phosib.
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais yma.