Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar bobl ac rydym i gyd yn wahanol ac yn amrywiol.

Mae Hamdden Celtic (HC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn credu fod gan bob unigolyn yr hawl i gael ei drin ag urddas a pharch ar bob adeg. Ein nod yw hybu cyfle cyfartal yn ein rôl fel cyflogwr.

Ein nod yw cyflogi pobl sy’n adlewyrchu natur amrywiol ein cymdeithas ac rydym yn gwerthfawrogi unigolion a’u cyfranogiad, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu eu tarddiad ethnig.

Yn 2006 cydnabuwyd HC â’r wobr ‘Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl’ ac rydym yn parhau i wneud addasiadau cadarnhaol i gydweithwyr. Rydym yn gweithio’n rhagweithiol mewn partneriaeth ag Undebau Llafur, yn ogystal â chyrff allanol eraill gan gynnwys Iechyd Galwedigaethol a Mynediad i Weithio, ac os yw’n berthnasol byddwn yn dod o hyd i gyngor a chefnogaeth gan asiantau arbenigol yn ôl y galw.

Os ydych chi’n gwneud cais am swydd gyda HC ac mae gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’n hymdriniaeth â chydraddoldeb ac amrywiaeth, neu os hoffech drafod unrhyw addasiadau neu gefnogaeth a all fod yn briodol pe bai chi’n cael eich gwahodd i gyfweliad neu ar ôl hynny yn cael cynnig o swydd, cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol.

 

positivepeop780x440