Mae Hamdden Celtic yn cael eu buddsoddi yn natblygiad ein gweithwyr.

Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod yr holl weithwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddatblygu a gwella. Byddwn yn buddsoddi yn ein gweithwyr, gan roi’r sgiliau angenrheidiol iddynt i wella ein busnes. Mae ein rhaglen hyfforddiant a datblygiad yn cynnwys:

Cyflwyniad

Bydd pob aelod o staff newydd yn derbyn rhaglen hyfforddiant a chyflwyno gyffredinol a phenodol i’r safle, sydd wedi ei theilwra yn ôl anghenion yr unigolyn a’r swydd. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ystod pedair wythnos gyntaf eich penodiad. Bydd hyfforddiant swydd ac ymgyfarwyddid sylfaenol yn cael ei drefnu ar gyfer wythnosau cyntaf y gyflogaeth a fydd yn rhan hanfodol o’r broses cyflwyno.

Gweithredol a Chyfreithiol

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau cyfreithiol o ddifrif ac oherwydd hyn bydd yr hyfforddiant hwn yn cael blaenoriaeth, e.e. cymorth cyntaf, trafod â llaw. Bydd holl hyfforddiant Iechyd a Diogelwch eich swydd yn cael ei gynnal yn ystod y 6 mis cyntaf.

Mae staff hefyd yn derbyn hyfforddiant gloywi rheolaidd yn seiliedig ar ofynion eu swydd.

Mentora

Rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar hyfforddi, mentora a hyfforddi drwy gyfarfodydd tîm, cyfarfodydd un i un a hyfforddiant penodol i’r swydd ar y safle.

Arfarniadau Blynyddol

Bydd y rhain yn darparu cyfle gwych i chi osod dyheadau eich dyfodol ac i drafod sut gall y cwmni eich cefnogi er mwyn i chi gyflawni’r nodau hyn.

Gwobrau a Manteision

Mae Hamdden Celtic yn cynnig y pecyn cynhwysfawr a chystadleuol o amodau a thelerau gweithio canlynol i’n gweithwyr contract:

  • Cyflog Cystadleuol
  • Cynllun Pensiwn Galwedigaethol
  • Tâl Mamolaeth Galwedigaethol a Salwch
  • Cydnabyddiaeth Undebau Llafur
  • Cynllun Gostyngiadau Staff
  • Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
  • Gwyliau Blynyddol Hael
  • Cyfleoedd Datblygu